5 Ebrill 2016
Cymorth i'r diwydiant dur yng Nghymru
Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarfod heddiw i drafod sut y gall Llywodraethau Cymru a'r DU gynorthwyo’r diwydiant dur yng Nghymru. Roedd y sesiwn hon yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ein cyfarfod ar 3 Mawrth.
Clywsom dystiolaeth gan gynrychiolwyr Tata Steel UK, Liberty House Steel UK, Celsa Steel a'r undebau - Cymuned a Unite. Clywsom hefyd gan y Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
Fel Pwyllgor, rydym yn gwbl argyhoeddedig ei bod o fudd cenedlaethol i barhau i gynhyrchu dur yn y DU ac yn credu’n bendant yn nyfodol y diwydiant yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod ymdrechion sylweddol y ddwy Lywodraeth i gefnogi'r diwydiant ers deall bod Tata Steel UK ar werth. Fodd bynnag, teimlwn y gellid ac y dylid gwneud rhagor.
Strategaeth ddiwydiannol y DU
Rydym yn galw am strategaeth ddiwydiannol a gweithgynhyrchu rhagweithiol ar gyfer y DU; strategaeth sy’n sicrhau bod llif o brosiectau seilwaith a buddsoddi yn y DU yn manteisio ar ansawdd dur a gynhyrchir yn y DU a’r buddion amgylcheddol sydd ynghlwm wrth ei ddefnyddio.
Caffael
Rydym yn croesawu'r nodyn polisi caffael a gyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 30 Hydref 2015. Rydym yn ymwybodol o farn Llywodraeth Cymru fod hwn yn adlewyrchu arfer presennol yng Nghymru. Rydym yn galw am systemau monitro a rheoli effeithiol i ddwyn ein holl gomisiynwyr yn y sector cyhoeddus i gyfrif ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r mesurau y cytunwyd arnynt i weithredu ac archwilio’u polisïau.
Ardrethi Busnes
Rydym yn cydnabod bod angen cymryd gofal i sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd wrth ymdrin ag ardrethi busnes rhag i aelod-wladwriaethau eraill yr UE eu herio. Fodd bynnag, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd am hynt unrhyw gynigion i eithrio offer a pheiriannau rhag ardrethi busnes.
Yn benodol, credwn fod angen egluro’r cyfeiriad polisi yn y maes hwn a chyhoeddi rhagor o fanylion am ba bryd y cynhaliwyd trafodaethau ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ynglŷn â hyn.
Tariffau
Rydym yn annog Llywodraeth y DU i gymryd camau i’w gwneud yn haws i’r diwydiant dur yn y DU gystadlu, drwy gymryd yr awenau yn Ewrop i gryfhau’r mesurau i amddiffyn masnach.
Statws economi'r farchnad
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wrthsefyll galwadau gan yr UE i roi statws economi marchnad i Tsieina. Byddai hyn yn dwysáu’r anawsterau sy’n wynebu’r diwydiant o ran dympio dur sydd islaw’r pris ar y farchnad.
Rydym yn galw am i gwmpas ac aelodaeth Tasglu Cwmni Dur Tata gael ei ehangu. Dylai ganolbwyntio ar sicrhau bod y diwydiant dur yng Nghymru yn parhau’n rhan o farchnad y DU yn ei chyfanrwydd. Rydym yn gofyn i Weinidogion Llywodraeth y DU fod yn bresennol ym mhob cyfarfod o leiaf.
Ynni
Mae'r cynrychiolwyr y clywsom ganddynt am i gynhyrchwyr dur yn y DU weithredu o dan yr un amodau ag unrhyw wlad arall. Tynnwyd sylw penodol at gost ynni sy’n uwch i gynhyrchwyr y DU. Er y pecyn iawndal a gynigir gan Lywodraeth y DU maent yn dal yn wynebu costau ynni sylweddol uwch na chwmnïau eraill sy’n cystadlu â nhw.
Rydym yn cydnabod bod dulliau amrywiol y gellir eu defnyddio i leihau costau ynni. Yn yr un modd, mae cyfleoedd i ddiwydiant dur y DU wneud mwy o ddefnydd o ffynonellau adnewyddadwy, defnyddio ynni’n fwy effeithlon a chynhyrchu ynni ar eu safleoedd. Fodd bynnag, rhaid buddsoddi i roi mentrau o’r fath ar waith.
Dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru esbonio’u hymdrechion i leihau cost ynni yn y diwydiant dur ac amlinellu’r cymorth a fydd ar gael i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol diwydiant dur y DU.
Gwerthwr cyfrifol
Rydym yn galw ar i Tata Steel weithredu fel gwerthwr cyfrifol. I'r perwyl hwn, rydym yn eu hannog i rannu adroddiad McKinsey gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i roi digon o amser iddynt baratoi i gefnogi darpar brynwyr. Rydym hefyd yn credu y dylai Tata ymrwymo’n gyhoeddus i roi digon o amser i ddod o hyd i brynwr i Tata Steel UK.
I gloi, rydym yn siomedig nad oedd unrhyw un o Weinidogion Llywodraeth y DU yn gallu bod yn bresennol yn ein cyfarfod.
Rydym yn credu’n bendant fod dyfodol sicr a hyfyw i’r diwydiant hwn a galwn ar y ddwy Lywodraeth i gymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r problemau sy’n ei wynebu.
Yn gywir
William Graham AC
Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes